Y Cynghorydd Jamie Pritchard

Dirprwy Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili

Mae Jamie, 38, wedi cynrychioli ward Morgan Jones, sydd wedi’i lleoli yng nghanol tref Caerffili, ers 2012. Yn ogystal â’i rôl fel Dirprwy Arweinydd y Cyngor, mae Jamie hefyd yn Aelod Cabinet sy’n gyfrifol am ffyniant, adfywio a newid yn yr hinsawdd. Mae hyn yn cynnwys cymryd rhan flaenllaw mewn amrywiaeth o brosiectau adfywio strategol sy’n helpu i drawsnewid dyfodol cymunedau ar draws bwrdeistref sirol Caerffili. Un o’i brif ddiddordebau yw gwarchod a hyrwyddo canol trefi lleol – gan greu mannau cynaliadwy a llewyrchus, cefnogi twf busnes yn y Fwrdeistref Sirol, a gwrando ar y gymuned fusnes. Tu allan i’r gwaith, mae Jamie’n mwynhau treulio amser gyda’i ferch ddeg oed, cadw’n heini a mwynhau amrywiaeth eang o weithgareddau chwaraeon.