Y Cynghorydd Sue Morgan

Aelod Gweithredol dros Wastraff a Chynaliadwyedd. Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen

Mae Sue wedi gweithio mewn rolau llywodraethu a chyfathrebu uwch yn y sector cyhoeddus ac fel archwilydd perfformiad yng Nghymru, gan ganolbwyntio ar wella, adrodd ac atebolrwydd. Mae ei gwaith gyda Llys Archwilwyr Ewrop a sefydliadau archwilio eraill wedi helpu i ddatblygu dulliau archwilio newydd. Ar hyn o bryd, mae’n aelod cabinet dros wastraff a chynaliadwyedd yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen.