Trosolwg
- Lleoliad: Hen Orsaf Bŵer Aberddawan, gydag ymweliadau safle rheolaidd ar draws De Cymru a gweithio gartref ad-hoc
- Cyflog: £118,846
- Contract: Cyfnod penodol hyd at 31 Mawrth 2027
- Oriau: Amser llawn
- Dyddiad Cau: 20 Mai 2026
Gwybodaeth am CCR Energy Ltd
Mae CCR Energy Ltd, a sefydlwyd gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd, yn symud tuag at ddyfodol carbon isel ar hen safle Gorsaf Bŵer Aberddawan. Gyda chefnogaeth buddsoddiad cychwynnol o £40 miliwn gan y sector cyhoeddus, mae CCR Energy wedi cael ei greu i arwain y gwaith o’i ddatblygu, gan ddatgloi potensial safle 489 erw ar gyfer adfywiad sydd o arwyddocâd cenedlaethol.
Ein gweledigaeth yw dyfodol lle mae ynni carbon isel, arloesedd a chymuned yn dod at ei gilydd i greu amgylchedd deinamig a chynaliadwy.
Gwybodaeth am y Swydd
Mae CCR Energy Ltd yn chwilio am arweinydd eithriadol a phrofiadol i ymgymryd â rôl Rheolwr Gyfarwyddwr Dros Dro. Dyma gyfle unigryw i lunio dyfodol datblygu ynni ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd, gan yrru blaenoriaethau strategol yn eu blaen ac arwain sefydliad sy’n tyfu ar adeg allweddol. Gan adrodd i Fwrdd CCR Energy a Phrif Weithredwr CCR, byddwch yn darparu arweinyddiaeth gref a gweladwy i dîm o 15 – 20 o weithwyr, gan sicrhau bod amcanion a phrosiectau allweddol yn cael eu cyflawni’n llwyddiannus.
Cyfrifoldebau Allweddol
- Darparu arweinyddiaeth a chyfeiriad strategol i CCR Energy Ltd
- Gweithio’n agos gyda’r Bwrdd ac uwch randdeiliaid i gyflawni nodau’r sefydliad
- Goruchwylio camau olaf y gwaith o ddymchwel y safle ac adfer yn rhannol
- Cyflawni yn erbyn y cynllun busnes y cytunwyd arno a chwblhau’r gwaith o gyflawni’r uwchgynllun
- Gyrru strategaeth fuddsoddi, gan sicrhau partneriaethau a chyllid i wireddu potensial llawn y safle
- Meithrin a chynnal cysylltiadau â rhanddeiliaid ar lefel uchel ar draws y sectorau cyhoeddus, preifat a rhyngwladol
- Arwain, cymell a datblygu tîm sy’n perfformio’n dda
- Sicrhau llywodraethu effeithiol, rheolaeth ariannol a pherfformiad gweithredol
Gwybodaeth amdanoch chi
Byddwch yn arweinydd deinamig a chredadwy gyda hanes llwyddiannus ar lefel weithredol uwch.
Byddwch yn cynnig:
- Profiad amlwg o arweinyddiaeth sefydliadol a chyflawni strategol, gyda hanes o weithio ar lefel cyfres C neu fwrdd gweithredol naill ai yn y sector cyhoeddus neu’r sector preifat.
- Profiad sylweddol o ymgysylltu â datblygwyr, buddsoddwyr, busnesau a phrifysgolion blaenllaw i sicrhau gwerth ariannol a gwerth lle.
- Profiad sylweddol o arwain a rheoli rhaglenni cymhleth sy’n cynnwys nifer o randdeiliaid ar bob cam o gylch bywyd y prosiect.
- Profiad a gwybodaeth o weithio ar lefel uwch ym meysydd ynni, seilwaith neu ddatblygu.
- Byddwch wedi eich addysgu hyd at lefel gradd neu gymhwyster cyfatebol, gyda thystiolaeth amlwg o ddatblygiad proffesiynol a phersonol parhaus.
Gwybodaeth Ychwanegol
- Mae’r rôl hon yn cynnwys gweithio’n ystwyth, gan gynnwys gweithgareddau yn y swyddfa, gartref ac yn y maes
- Lleoliad y prif swyddfa yw hen Orsaf Bŵer Aberddawan ond mae teithio’n rheolaidd i safleoedd ar draws De Cymru yn hanfodol gyda rhywfaint o weithio gartref ad-hoc
- Efallai y bydd angen gweithio gyda’r nos ac ar benwythnosau o bryd i’w gilydd
- Byddai trwydded yrru lawn a dilys a defnydd o gar eich hun yn fantais
- Mae cyfyngiadau gwleidyddol ar y swydd hon dan Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989
Pam Ymuno â CCR Energy?
Mae hwn yn gyfle prin i chwarae rhan flaenllaw yn y gwaith o lunio dyfodol ynni yn y rhanbarth.
Byddwch yn rhan o sefydliad blaengar sydd â nodau uchelgeisiol a’r gefnogaeth i gael effaith go iawn.
Fel cyflogwr cyfle cyfartal, mae CCR Energy wedi ymrwymo i drin pob gweithiwr presennol a darpar weithiwr yn gyfartal ac nid yw’n esgusodi gwahaniaethu ar sail oedran, anabledd, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth, hil neu ethnigrwydd, crefydd neu gred, hunaniaeth rhywedd, na phriodas a phartneriaeth sifil.
Ein nod yw cael gweithle amrywiol a chynhwysol ac rydym yn annog ymgeiswyr sydd â chymwysterau addas o amrywiaeth eang o gefndiroedd i wneud cais. Rhowch wybod i ni ar ôl cyrraedd y rhestr fer os oes angen unrhyw addasiadau rhesymol i’ch cefnogi i gymryd rhan yn y broses ddethol.
Y Drefn Ymgeisio
Gweler Disgrifiad Swydd llawn a Manyleb y Person am gopi o’r Disgrifiad Swydd llawn a Manyleb y Person.
Rhaid cyflwyno ceisiadau, gan gynnwys CV llawn a llythyr eglurhaol, i paulmatthews@monmouthshire.gov.uk erbyn hanner nos ddydd Mercher 20 Mai 2026. Rydym yn cadw’r hawl i gau’r broses yn gynt na’r dyddiad cau a nodwyd os daw digon o geisiadau i law.