Ein cynllun meistr
Yn CCR Energy, rydym yn trawsnewid safle Pwerdy Aberddawan yn ganolfan fywiog ar gyfer ynni cynaliadwy, arloesi a datblygu cymunedol. Mae Prosiect Aberddawan yn fenter sawl cam sy’n ymrwymedig i ddymchwel a chyweirio’r hen bwerdy’n gyfrifol ynghyd â gosod y sylfeini ar gyfer creu dyfodol wedi’i ddiffinio gan fyw carbon isel
Mae ein cenhadaeth yn fwy nag anelu at fod yn garbon niwtral; ein nod yw creu amgylchedd sy’n rhyngwladol gystadleuol a gwella lles economaidd a chymdeithasol. Mae’r prosiect hwn yn fwy na cheisio lleihau allyriadau carbon – mae’n ymwneud â chreu cymuned ffyniannus, gynaliadwy. Gan roi ffocws ar arbed ynni, y cyfleusterau diweddaraf ynghyd ag ymchwil a datblygu parhaus, bydd Aberddawan yn arwain y ffordd o ran arloesi, denu buddsoddiad, creu gwaith a meithrin clwstwr o uwch-dechnolegau. Rydym yn ymrwymedig i gael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd gan sicrhau bod Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn arwain y byd mewn cynaliadwyedd ac fel cyrchfan i fusnesau blaengar.
Dymchwel
Bydd Cam Un yn dymchwel Pwerdy Aberddawan dros gyfnod o dair blynedd. Mae contract y gwaith dymchwel wedi’i roi i Erith Contractors – ymddiriedaeth deuluol a’i staff yn berchen arni a sefydlwyd yn 1967. Mae CCR Energy wedi penodi WSP i helpu i oruchwylio a gweinyddu’r contract dymchwel i sicrhau bod y safonau gwaith uchaf posib yn cael eu cwrdd wrth i’r prosiect uchelgeisiol hwn fynd yn ei flaen, gan adael gwaddol parhaol o arloesi a chynaliadwyedd i gymunedau ac economi De-Ddwyrain Cymru.
O ystyried pa mor gymhleth yw’r gwaith o ddymchwel a chyweirio rhywle oedd yn gartref i bwerdy glo mawr am hanner canrif, mae’r safle 500 acer wedi’i rannu’n bum parth allweddol. Bydd hyn yn helpu i gyflymu’r cyfleoedd datblygu a chefnogi proses ddymchwel sy’n rhoi diogelwch, stiwardiaeth amgylcheddol ac ymgysylltu cymunedol wrth galon y broses.






















Mae Cam 2 yn nodi dechrau dymchwel mecanyddol ar draws y gwahanol barthau yn dilyn y broses ofalus a systematig o dynnu asbestos. Mae’r cam yma yn canolbwyntio ar baratoi pob ardal ar gyfer ailddatblygu, gan ddefnyddio peiriannau trwm i ddatgymalu strwythurau yn ddiogel ac yn effeithlon.
Gyda gwaith dymchwel ar fin dechrau ym Mharth 5 ac yna parhau ym Mharthau 4, 3 a 2 wedi hynny, mae’n gam sylweddol wrth drawsnewid y safle. Bydd y gwaith yn cael ei gwblhau gyda’r pwyslais mwyaf ar safonau diogelwch ac effaith amgylcheddol, gan sicrhau proses gyfrifol wrth glirio safle.













Cam 3 yw’r cam olaf a mwyaf dwys yn y broses dymchwel, gan gynnwys gwaith dymchwel mecanyddol a digwyddiadau ffrwydrol rheoliedig i gael gwared ar y strwythurau mawr sydd ar y safle.
Mae’r cam yma yn canolbwyntio ar y gwaith datgymalu cymhleth o ardaloedd allweddol, megis tŵr y simdde ym Mharth 2 ac adeiladau blaenllaw ym Mharth 1. Trwy gyfuno uwch-dechnegau dymchwel ynghyd â chynllunio manwl, nod Cam 3 yw sicrhau fod y safle yn cael ei glirio yn ddiogel ac effeithiol, gan baratoi pethau ar gyfer yr ailddatblygu sydd i ddilyn yn y dyfodol tra’n lleihau aflonyddwch i’r gymuned gyfagos.








Addewid i’r gymuned
Mae ein haddewid i’r gymuned wrth galon y prosiect hwn gan sicrhau bod preswylwyr lleol a rhanddeiliaid nid yn unig yn cael eu diweddaru ond yn cael eu hystyried yn fanwl ym mhob cam. Rydym yn ymroddedig i barhau i gyfathrebu’n agored a didwyll gan ddiweddaru’n rheolaidd a rhoi sylw prydlon i unrhyw bryderon. Drwy ymgynghori gyda’r cyhoedd, sesiynau gwybodaeth a mentrau cydweithredol fel partneriaeth Academii Aberddawan, ein nod yw meithrin ymdeimlad o bwrpas cyffredin a thryloywder. Drwy flaenoriaethu lles y gymuned a gwrando’n bwrpasol ar eu hadborth, ein nod yw lleihau unrhyw aflonyddwch a chreu canlyniadau da a pharhaus i’r rhanbarth.
Cwestiynau Cyffredin
Nod Prosiect Aberddawan yw ail-bwrpasu hen Bwerdy Aberddawan yn ne-ddwyrain Cymru a’i droi’n gyrchfan carbon isel aml-ddefnydd a chynaliadwy ar gyfer ynni adnewyddadwy, technoleg carbon isel a datblygu economaidd, gan gefnogi cynaliadwyedd y rhanbarth a chreu swyddi union / anuniongyrchol.
Y nod yw creu cyrchfan carbon isel ar gyfer busnesau sy’n cefnogi a defnyddio ynni carbon isel, buddsoddi mewn diwydiannau sy’n defnyddio technoleg werdd ac, yn y pen draw, cynyddu twf yr economi leol a rhanbarthol drwy greu swyddi o ansawdd uchel.
Mae cymysgedd o ffynonellau ynni adnewyddadwy carbon isel yn cael ei ystyried, gan gynnwys pŵer solar, tyrbinau gwynt, pŵer llanw, adweithyddion modiwlar bach (SMR) ayyb, ac efallai pŵer hydrogen o un neu fwy o’r ffynonellau hyn. Bydd unrhyw brosiect sy’n cael ei ystyried yn seiliedig ar astudiaeth ymarferoldeb, amodau safle ac asesiad o’r effaith amgylcheddol.
Y gobaith yw y bydd prosiect Aberddawan yn creu gwaith, darparu cyfleoedd addysgol, denu buddsoddiad a gwella’r seilwaith presennol yn ogystal â chreu seilwaith newydd. Bydd hefyd yn ceisio creu ardaloedd hamdden cyhoeddus ar y safle.
Bydd Asesiad Effaith Amgylcheddol yn cael ei wneud ar gyfer unrhyw brosiect sy’n cael ei ystyried i leihau’r effeithiau negyddol, gwella bioamrywiaeth a gwella iechyd hirdymor yr ecosystem leol.
Bydd, mae ymgysylltu gyda’r gymuned yn bwysig iawn i CCR Energy. Bydd y tîm yn cynnwys preswylwyr, busnesau a sefydliadau drwy ymgynghori cyhoeddus, sesiynau gwybodaeth a chynllunio cydweithredol.
Drwy fod yn y camau dymchwel, cyweirio, cynllunio a datblygu cynnar ar hyn o bryd, bydd y cam dymchwel yn cymryd hyd at dair blynedd (Gwanwyn 2027), gan ddisgwyl i’r camau adeiladu, cyweirio a gweithredol symud ymlaen ochr yn ochr â’r cam dymchwel wrth i gyfleoedd masnachol ddatblygu.
Bydd y prosiect yn creu swyddi mewn ynni adnewyddadwy, technoleg werdd, adeiladu, cynnal a chadw safle, addysg ac ymchwil, gan ganolbwyntio ar sefydlu gweithlu medrus ar gyfer diwydiannau cynaliadwy.
Gall aelodau o’r gymuned gymryd rhan drwy ymgynghoriadau cyhoeddus, rhaglenni gwirfoddoli a chyfarfodydd rhanddeiliaid. Bydd y newyddion diweddaraf am gynnydd, digwyddiadau a chyfleoedd i gymryd rhan yn y prosiect yn cael eu rhannu’n rheolaidd ar wefan Newyddion / Digwyddiadau CCR Energy a’r cyfryngau cymdeithasol.
Mae ein ffocws ar brosiectau cynaliadwy fel cynhyrchu ynni adnewyddadwy, storfeydd batri a phrosiectau sy’n cefnogi hyn fel gweithgynhyrchu, arloesi a chyfleusterau hydrogen gwyrdd ayyb.
Nid yw CCR Energy yn ystyried gosod llosgydd ar y safle ac nid oes cynigion wedi eu cyflwyno.
Mae diogelwch yn flaenoriaeth ym mhob cam o’r prosiect, gydag asesiadau risg a rheolau iechyd a diogelwch llym yn eu lle. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â thîm Prosiect Aberddawan drwy wefan CCR Energy neu e-bostio enquiries@ccrenergy.com
Buddsoddi yn Aberddawan
Mae Aberddawan yn cynnig amrediad unigryw o gyfleoedd gwych i fuddsoddi mewn cyrchfan carbon isel arloesol ac ysbrydoledig. Cysylltwch â’n tîm i gael gwybod mwy.