Cyflwyniad
Mae CCR Energy wedi ymrwymo i ddiogelu a pharchu eich preifatrwydd. Mae’r Polisi Preifatrwydd hwn yn egluro sut rydym yn casglu, yn defnyddio ac yn diogelu eich gwybodaeth bersonol pan fyddwch yn ymweld â’n gwefan, www.ccrenergy.com. Drwy ddefnyddio ein Gwefan, rydych yn cytuno i ni gasglu a defnyddio gwybodaeth yn unol â’r polisi hwn.
Yr wybodaeth rydym ni’n ei chasglu
Efallai y byddwn yn casglu ac yn prosesu’r data canlynol amdanoch chi:
- Gwybodaeth Adnabod Personol: Enw, cyfeiriad e-bost, rhif ffôn, a manylion cyswllt eraill.
- Data Technegol: Cyfeiriad IP, math o borwr a fersiwn, gosodiad cylchfa amser, fersiynau a mathau o ategion pori, system weithredu, a llwyfan.
- Data Defnyddio: Gwybodaeth am sut rydych chi’n defnyddio ein Gwefan.
- Data Marchnata a Chyfathrebu: Eich dewisiadau o ran derbyn deunydd marchnata gennym ni a’ch dewisiadau cyfathrebu.
Sut rydym yn casglu gwybodaeth
Rydym yn defnyddio dulliau gwahanol i gasglu data gennych chi ac amdanoch chi, gan gynnwys drwy:
- Ryngweithiadau uniongyrchol: Efallai byddwch chi’n rhoi eich gwybodaeth bersonol i ni drwy lenwi ffurflenni neu drwy ohebu â ni drwy’r post, dros y ffôn, e-bost neu fel arall.
- Technolegau Awtomataidd: Wrth i chi ryngweithio â’n Gwefan, mae’n bosibl i ni gasglu data technegol yn awtomatig am eich offer, eich gweithredoedd a’ch patrymau pori. Rydym yn casglu’r wybodaeth bersonol hon drwy ddefnyddio cwcis a thechnolegau tebyg eraill.
- Trydydd Partïon neu Ffynonellau sydd ar gael yn Gyhoeddus: Efallai y byddwn yn cael data personol amdanoch gan wahanol drydydd partïon a ffynonellau cyhoeddus.
Sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth
Rydym yn defnyddio’r wybodaeth a gasglwn yn y ffyrdd canlynol:
- I ddarparu a gwella ein gwasanaethau: I gyflwyno ein gwefan a’i chynnwys i chi, ac i ddarparu gwybodaeth, cynnyrch neu wasanaethau y byddwch yn gofyn amdanynt gennym ni.
- I reoli eich cyfrif: I reoli cofrestriadau fel defnyddiwr y wefan.
- I gyfathrebu â chi: I ddarparu gwybodaeth i chi am y prosiectau a’r gwasanaethau a gynhigiwn sy’n debyg i’r rhai yr ydych wedi holi amdanynt.
- At ddiben marchnata a hysbysebu: I fesur neu ddeall effeithiolrwydd yr hysbysebion rydym yn eu cyflwyno i chi a darparu hysbysebion perthnasol.
- I gydymffurfio â rhwymedigaethau cyfreithiol: I gydymffurfio ag unrhyw rwymedigaethau cyfreithiol neu ofynion rheoleiddiol.
Rhannu Eich Gwybodaeth
Nid ydym yn gwerthu, yn masnachu nac yn trosglwyddo eich gwybodaeth bersonol adnabyddadwy fel arall i bartïon allanol. Efallai y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth â:
- Darparwyr Gwasanaethau: Trydydd partïon sy’n darparu gwasanaethau i ni, fel lletya a chynnal gwefannau, dadansoddi data, prosesu taliadau, cyflawni archebion, a gwasanaeth cwsmeriaid.
- Trosglwyddiadau Busnes: Mewn achos o uno, caffael, neu unrhyw fath o werthu rhai neu’r cyfan o’n hasedau, bydd data personol sy’n cael ei ddal gennym ni am ein cwsmeriaid ymysg yr asedau sy’n cael eu trosglwyddo i’r prynwr.
- Gofynion Cyfreithiol: Os yw’n ofynnol yn ôl y gyfraith neu mewn ymateb i geisiadau dilys gan awdurdodau cyhoeddus.
Diogelwch Data
Rydym wedi rhoi mesurau ar waith i ddiogelu eich data personol rhag cael ei golli’n ddamweiniol a rhag mynediad, defnydd, newid a datgelu heb awdurdod. Mae’r holl wybodaeth rydych chi’n ei rhoi i ni yn cael ei storio ar ein gweinyddion diogel.
Eich Hawliau
Mae gennych yr hawliau canlynol o ran eich data personol:
- Mynediad: I ofyn am fynediad at eich data personol.
- Cywiro: I ofyn i ni gywiro’r data personol rydym ni’n ei gadw amdanoch chi.
- Dileu: I ofyn i ni ddileu eich data personol.
- Gwrthwynebu: I wrthwynebu prosesu eich data personol.
- Cyfyngu: I ofyn i ni gyfyngu prosesu eich data personol.
- Trosglwyddo: I ofyn i ni drosglwyddo eich data personol i barti arall.
- Tynnu cydsyniad yn ôl: I dynnu cydsyniad yn ôl unrhyw bryd pan fyddwn yn dibynnu ar gydsyniad i brosesu eich data personol.
Cwcis
Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis i wahaniaethu rhyngoch chi a defnyddwyr eraill ein gwefan. Mae hyn yn ein helpu i roi profiad da i chi pan fyddwch chi’n pori ein gwefan ac mae hefyd yn caniatáu i ni wella ein gwefan. I gael gwybodaeth fanwl am y cwcis rydym ni’n eu defnyddio, a’r dibenion yr ydym yn eu defnyddio ar eu cyfer, darllenwch ein Polisi Cwcis.
Newidiadau i’n Polisi Preifatrwydd
Efallai y byddwn yn diweddaru ein Polisi Preifatrwydd o bryd i’w gilydd. Bydd unrhyw newidiadau a wnawn yn cael eu rhoi ar y dudalen hon. Dewch yn ôl yn rheolaidd i weld unrhyw ddiweddariadau neu newidiadau i’n Polisi Preifatrwydd.
Cysylltu â ni
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y Polisi Preifatrwydd hwn neu am ein harferion diogelu data, cysylltwch â ni yn:
CCR Energy
E-bost: enquiries@ccrenergy.com
Cyfeiriad: Gorsaf Bŵer Aberddawan, CF62 4JW
Cafodd y polisi hwn ei ddiweddaru ddiwethaf ar (21/05/2024).