Ein taith

Catalydd i ddatgarboneiddio De-ddwyrain Cymru

Mae’r DU yn benderfynol o ddatgarboneiddio ei grid trydan erbyn 2035 – gan ddileu’r gyfran bresennol o 40% o danwydd ffosil, trawsnewid diwydiannau cyfan, a symud y cyflenwad pŵer yn ei gyfanrwydd i fodel cwbl wahanol.

Mae CCR Energy yn grymuso’r daith hon. Rydym ni yma i sbarduno ‘trawsnewid cyfiawn’ sy’n dod â swyddi gwerthfawr, llwybrau datblygu ac adfywio cymunedol – sy’n alinio â mentrau arloesol fel Clwstwr Diwydiannol De Cymru a’r Porthladd Rhydd Celtaidd er mwyn sicrhau bod De-ddwyrain Cymru yn arweinydd byd-eang ym maes ynni cynaliadwy a diwydiannau gwyrdd.

Mae ein taith eisoes wedi dechrau – yn Aberddawan – drwy Uwchgynllun a fydd yn chwyldroi ynni a gweithgynhyrchu yn ein rhanbarth…

Sicrhau bod De-ddwyrain Cymru yn arweinydd byd-eang ym maes cynaliadwyedd

Potensial Digyffelyb

Gallai’r datblygiad arloesol hwn ddod yn safle ar gyfer cynhyrchu ynni cynaliadwy, e.e. ynni’r llanw neu adweithyddion modiwlaidd bach … hwb i greu hydrogen gwyrdd a thanwyddau di-garbon … cartref i ffatrïoedd giga a storfeydd batri ar gyfer gweithgynhyrchu uwch … canolfan ymchwil ynni ar gyfer arloesi parhaus … a pharc ecoleg bioamrywiol i bawb ei fwynhau.

Mae gennym y disgwyliadau uchaf – ac rydym yn disgwyl iddynt ail-lunio’r rhanbarth cyfan.

10
Awdurdodau Lleol sy’n rhan o Brifddinas-Ranbarth Caerdydd
1.5m
poblogaeth Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, sy'n cyfateb i bron i hanner poblogaeth Cymru
5000
neu fwy o gyfleoedd cyflogaeth posibl ar gyfer pobl Cymru
300
o erwau datblygu ar gyfer arloesi a buddsoddwyr
Mae
18m
tunnell o ludw tanwydd maluriedig (PFA) ar safle Aberddawan ar hyn o bryd
Daw
50%
o gyfanswm allbwn economaidd economi Cymru o Brifddinas-Ranbarth Caerdydd

Cyfle Buddsoddi Unigryw

Mae Aberddawan yn cynnig amrywiaeth unigryw o gyfleoedd eithriadol i fuddsoddi, mewn cyrchfan carbon isel ysbrydoledig ac arloesol. Cysylltwch â’n tîm nawr i gael rhagor o wybodaeth.

Holi am fuddsoddiad

FAQs

Mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn gorff rhanbarthol (a elwir hefyd yn Gydbwyllgor Corfforedig) sy’n cynnwys y 10 cyngor ar draws De-ddwyrain Cymru. Mae’r Rhanbarth wedi bod yn cydweithio’n llwyddiannus fel partneriaeth ers 2017. Mae buddsoddiadau a gweithgarwch ehangach CCR eisoes wedi creu a diogelu dros 3,000 o swyddi ar draws ein Rhanbarth; ac wedi cefnogi dros 200 o fusnesau, yn ogystal â buddsoddi miliynau mewn seilwaith trafnidiaeth lleol drwy’r system drafnidiaeth Metro leol.

Sefydlwyd CCR Energy gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd. Cydbwyllgor Corfforedig (CJC) Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yw unig gyfranddaliwr y cwmni. Penderfynodd y CJC gaffael y fenter arloesol hon er mwyn ailddatblygu’r orsaf bŵer sydd wedi’i datgomisiynu. Y prif amcan yw cyflymu’r broses o bontio i ynni adnewyddadwy yn Ne Ddwyrain Cymru. Trwy harneisio pŵer cydweithio ac arloesi, nod CCR Energy yw arwain y ffordd o ran creu dyfodol glanach, carbon isel i’n Rhanbarth a thu hwnt.

Ydy. Ymgorfforwyd CCR Energy Limited ym mis Mawrth 2022 (rhif y cwmni 13951868) fel cwmni cyfyngedig preifat, ac mae bellach â’i bencadlys yng Ngorsaf Bŵer Aberddawan, The Leys, Aberddawan, y Barri CF62 4JW.

Mae CCR Energy yn gwmni cyfyngedig sy’n eiddo i’r sector cyhoeddus (CCR CJC).

Mae Aberddawan, a arferai fod yn orsaf bŵer glo, bellach yn arweinydd ym maes trawsnewid. Prynodd CCR Energy y safle i’w droi’n gyrchfan carbon isel cynaliadwy. Ein nod yw ail-bwrpasu Aberddawan i harneisio ffynonellau ynni adnewyddadwy, gan yrru ein hymrwymiad i ddyfodol carbon isel a gosod cynsail ar gyfer adfywio amgylcheddol.

Mae Gorsaf Bŵer Aberddawan ger y Barri ym Mro Morgannwg, De Cymru, ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd. Mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn cynnwys deg awdurdod lleol (Sir Fynwy; Casnewydd; Torfaen; Blaenau Gwent; Caerffili, Merthyr, Caerdydd, Rhondda Cynon Taf, Bro Morgannwg a Phen-y-bont ar Ogwr) ac mae wedi ymrwymo i dwf economaidd cynaliadwy a mentrau ynni gwyrdd. Mae’r safle’n cael ei ailddatblygu’n gyrchfan ynni gwyrdd i gefnogi sectorau twf y dyfodol.

Cyfeiriad what3words ar gyfer Gorsaf Bŵer Aberddawan yw ///handbook.chair.flame. Gallwch ddefnyddio’r cyfeiriad hwn i nodi’r union leoliad ar fap what3words at ddiben llywio neu ddibenion eraill.

Mae ein gweledigaeth ar gyfer Aberddawan yn uchelgeisiol ac yn ysbrydoledig. Mae’r uwchgynllun yn cynnwys datblygiad arloesol a allai ddod yn safle ar gyfer cynhyrchu ynni cynaliadwy, e.e. ynni’r llanw neu adweithyddion modiwlaidd bach … hwb i greu hydrogen gwyrdd a thanwyddau di-garbon … cartref i ffatrïoedd giga a storfeydd batri ar gyfer gweithgynhyrchu uwch … canolfan ymchwil ynni ar gyfer arloesi parhaus … a pharc ecoleg bioamrywiol i bawb ei fwynhau. Yn anad dim, y weledigaeth ar gyfer yr ailddatblygiad yw cefnogi twf y diwydiant drwy ddatrysiadau ynni carbon isel cynaliadwy.

Bydd yn cymryd tua 4 blynedd i ddymchwel yr orsaf bŵer yn llwyr, gyda rhannau llai o’r safle’n cael eu clirio cyn cwblhau’r gwaith. Gallwch gael y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y safle drwy gadw llygad ar dudalen prosiect Aberddawan ar y wefan.

Rydym ni’n awyddus i weithio gyda chynifer o gyflenwyr lleol â phosib. Cysylltwch â ni drwy anfon neges e-bost at enquiries@cccrenergy.com ac anfon rhagor o wybodaeth atom.

Bydd ymgyrchoedd recriwtio rheolaidd yn cael eu cynnal dros y blynyddoedd nesaf, lle byddwn yn rhannu gwybodaeth ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol ac ar ein gwefan.