Ein Huchelgais

Datgarboneiddio diwydiant drwy dwf glân

Mae ein huchelgais yn seiliedig ar ein hymrwymiad i greu De-ddwyrain Cymru sy’n gynaliadwy a ffyniannus – gan gyfrannu at ddatblygu rhanbarth carbon isel a mwy llewyrchus, sydd wedi’i wreiddio’n gadarn mewn ynni adnewyddadwy a gweithgynhyrchu uwch.

Wedi’i sefydlu yn 2023 fel syniad Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, rydym yn dwyn ynghyd ymrwymiad ac ysbryd entrepreneuraidd ar y cyd rhanbarth a ysgogodd y chwyldro diwydiannol cyntaf – ac sy’n mynd i chwarae rhan allweddol yn y bedwaredd oes ddiwydiannol.

Arloeswr masnachol a grym economaidd er daioni

Ein Hadduned

Rydym ni’n elfen hollbwysig o nod Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i gyflawni carbon sero net erbyn 2050 – ar daith a fydd yn ein gweld yn creu miloedd o swyddi newydd, yn creu gwerth cymdeithasol sylweddol, yn datgloi potensial ein cadwyni cyflenwi, ac yn denu buddsoddiad mewnol enfawr.

Rydym ni’n credu bod ynni cynaliadwy a ‘thwf da’ yn mynd law yn llaw – gyda CCR Energy yn gweithredu fel catalydd ar gyfer arloesi chwyldroadol, ac yn darparu adenillion o fuddsoddi (ROI) parhaus i’n buddsoddwyr ac i bobl De-ddwyrain Cymru.

Mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd a meithrin economi gynaliadwy

Amdanom Ni

Mae CCR Energy yn torri tiroedd newydd ym maes ynni gwyrdd, addysg a thwristiaeth, i greu De-ddwyrain Cymru sy’n gynaliadwy, arloesol a llewyrchus.

Dechreuodd ein taith drwy gaffael Gorsaf Bŵer eiconig Aberddawan, sydd wedi’i datgomisiynu – a byddwn yn hyrwyddo technolegau carbon isel a gweithgynhyrchu uwch mewn rhanbarth sy’n gartref i hanner poblogaeth ac allbwn economaidd Cymru … gan greu cynaliadwyedd, ystod eang o gyfleoedd cyflogaeth, a chyflawni gwerth cymdeithasol, yng Nghymru a thu hwnt.

 

Ein Gweledigaeth

Ein gweledigaeth yw mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd, gwella cadernid ynni – a gosod y llwyfan ar gyfer meithrin economi gynaliadwy – drwy fanteisio ar botensial enfawr safle Gorsaf Bŵer Aberddawan.

Ein gwerthoedd

Yn CCR Energy, rydym wedi ymrwymo i sbarduno newid cadarnhaol yn y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu a'r amgylchedd rydym yn byw ynddo. Mae ein cenhadaeth yn seiliedig ar set o werthoedd craidd sy’n diffinio ein pwrpas ac yn siapio ein gweithredoedd.

Gyrrwr Cynaliadwyedd ac Arloesi

Rydym yn arwain ymdrechion i gyflymu datgarboneiddio ar draws rhanbarth Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, drwy ysgogi arloesedd a thechnolegau arloesol. Mae ein ffocws ar feithrin twf yn sectorau Diwydiant 4.0 yn sicrhau ein bod yn parhau i fod ar flaen y gad o ran datblygiadau technolegol, gan sbarduno cynnydd cynaliadwy.


Ailfywiogi ac Adfywio

Rydym ni wedi ymrwymo i sbarduno mentrau adfywio, gan anadlu bywyd newydd i’r rhanbarth a chreu cyfleoedd cyflogaeth gwerth uchel. Trwy optimeiddio safleoedd allweddol yn strategol, rydym yn datgloi eu potensial llawn, gan sbarduno twf economaidd a ffyniant.


Hyrwyddwr Llesiant

Rydym yn cysylltu â nodweddion a gwerthoedd lleol, i gryfhau’r ymdeimlad o le a hunaniaeth – gwella mynediad at amgylcheddau naturiol, hanesyddol ac arfordirol, mynd i’r afael â heriau amgylcheddol, a mynd i’r afael â cholli bioamrywiaeth.