×

Aberddawan, De Cymru – [DYDD GWENER 12 MEHEFIN] – Cyrhaeddwyd carreg filltir bwysig yn y gwaith o drawsnewid hen safle Gorsaf Bŵer Aberddawan heddiw wrth i gorn simnai eiconig yr orsaf gael ei dymchwel yn ddiogel ac yn llwyddiannus.

Roedd corn simnai Aberddawan yn 650 troedfedd o uchder ac ymhlith y strwythurau talaf yng Nghymru. Roedd yn un o nodweddion amlycaf nenlinell De Cymru am dros bum degawd. Cafodd y strwythur ei adeiladu yn ystod datblygiad yr orsaf bŵer ddiwedd y 1960au a dechrau’r 1970au. Roedd yn cynnwys tri ffliw a ddaeth yn gysylltiedig â rôl hanesyddol Aberddawan o ran cynhyrchu trydan a datblygiad diwydiannol yn y rhanbarth.

Roedd y strwythur i’w weld mewn cymunedau ar draws De Cymru a Môr Hafren, ac roedd yn dirnod adnabyddus ac yn atgof parhaol o gyfraniad y safle i sector ynni Cymru. Mae’r dymchweliad hwn yn nodi cam sylweddol yn nhrosglwyddiad safle Aberddawan o’i orffennol diwydiannol, tuag at ddyfodol newydd sy’n canolbwyntio ar ynni cynaliadwy, diwydiant sy’n cael ei arwain gan arloesedd ac adfywio hirdymor.

Cafodd y gwaith dymchwel dan reolaeth ei gyflawni’n ddiogel gan gontractwyr dymchwel CCR Energy Ltd, Erith Contractors Ltd, gyda chefnogaeth tîm arbenigol, PDC Explosives Engineering. Cafodd y gwaith ei wneud yn unol â rheolaethau diogelwch ac amgylcheddol llym.  Mae’r gwaith yn rhan o raglen ddymchwel a galluogi safle ehangach sydd ar waith ar hyn o bryd yn Aberddawan.

Bydd cael gwared ar y corn yn helpu i symud ymlaen i gam nesaf y gwaith ailddatblygu ar draws y safle, sy’n cael ei baratoi i gefnogi amrywiaeth o gyfleoedd yn y dyfodol sy’n gysylltiedig ag ynni glân, gweithgynhyrchu uwch, arloesedd diwydiannol a gwydnwch amgylcheddol – mewn ardal arfordirol strategol bwysig.

Mae’r rhaglen ailddatblygu yn parhau i ddilyn dull gweithredu fesul cam sy’n seiliedig ar dystiolaeth, gan sicrhau hyblygrwydd i ymateb i gyfleoedd buddsoddi yn y dyfodol, galw yn y farchnad a thechnolegau sy’n dod i’r amlwg.

CCR Energy Quote – Paul Matthews, Cadeirydd Bwrdd CCR Energy

“Mae corn simnai Aberddawan wedi diffinio nenlinell De Cymru ers cenedlaethau ac mae ei dymchwel yn nodi carreg filltir arwyddocaol yn y gwaith o drawsnewid y safle.

Er bod heddiw’n ddiwedd pennod bwysig yn hanes Aberddawan, mae hefyd yn adlewyrchu’r cynnydd sy’n cael ei wneud i baratoi’r safle ar gyfer buddsoddiad a chyfleoedd newydd yn y dyfodol. Bydd Aberddawan yn chwarae rhan bwysig yn y gwaith o gefnogi diwydiant cynaliadwy, arloesedd a thwf economaidd hirdymor yn y rhanbarth.”

Dyfyniad Erith Contractors Ltd – Andy Dyson, Cyfarwyddwr Gweithrediadau

“Roedd dymchwel strwythur mor amlwg a thechnegol arwyddocaol â chorn simnai Aberddawan yn gofyn am gynllunio manwl, arbenigedd peirianyddol helaeth a dull gweithredu oedd yn rhoi diogelwch yn gyntaf drwyddi draw.

Rydym ni’n falch ein bod wedi cyflawni’r gwaith yn ddiogel ac yn llwyddiannus fel rhan o’r gwaith ehangach o drawsnewid safle Aberddawan.”

Ffeithiau am y Corn

  • Taldra: Tua 650 troedfedd/198 metr
  • Un o’r strwythurau talaf yng Nghymru
  • I’w weld ar draws rhannau helaeth o Dde Cymru a Môr Hafren
  • Cafodd ei adeiladu yn ystod datblygiad Gorsaf Bŵer Aberddawan ddiwedd yr 1960au / dechrau 1970au
  • Mae wedi bod yn nodwedd arwyddocaol ers dros 50 mlynedd
  • Mae’n rhan o hen Orsaf Bŵer Aberddawan oedd yn llosgi glo. Daeth y gwaith cynhyrchu trydan i ben yn swyddogol yno yn 2020

Edrych tua’r Dyfodol

Bydd camau nesaf y gwaith dymchwel, adfer a pharatoi’r safle yn Aberddawan nawr yn parhau, yn ogystal â gwaith cynllunio, cynnal asesiadau seilwaith ac ymgysylltu â phartneriaid posibl ar draws y sectorau ynni, diwydiant ac arloesi.

Mae’r gwaith o drawsnewid Aberddawan yn parhau i ganolbwyntio ar greu cyfleoedd tymor hir ar gyfer buddsoddiad, cyflogaeth, cynaliadwyedd a thwf rhanbarthol – gan sicrhau bod y safle’n parhau i chwarae rhan bwysig yn nyfodol economi Cymru am genedlaethau i ddod.