Adeiladu dyfodol cynaliadwy drwy dwf carbon isel

Mae Academi Aberddawan yn blatfform addysgol ar-lein i ysgolion, colegau a rhieni ei ddefnyddio ar gyfer Cyfnod Allweddol 2 a chyfnodau rhagarweiniol Cyfnod Allweddol 3.

Wedi’i ddatblygu gan CCR Energy ar y cyd gydag Academii, mae’r platfform yn dod â byd cyfareddol ynni adnewyddadwy a chynaliadwyedd yn fyw – yn yr ystafell ddosbarth ac yn y cartref.

 

Beth Fydd Disgyblion yn Darganfod

Drwy gymeriadau animeiddiedig, enghreifftiau o’r byd go iawn, a gweithgareddau dysgu creadigol, gall disgyblion:

  • Archwilio sut mae ynni’n cael ei gynhyrchu o ffynonellau solar, llanw, gwynt, a niwclear
  • Darganfod sut mae Gorsaf Bŵer Aberddawan yn cael ei thrawsnewid yn ganolfan arloesi carbon isel
  • Dysgu am yrfaoedd gwyrdd – o beirianwyr morol i dechnegwyr tyrbinau gwynt – a dychmygu eu dyfodol eu hunain mewn byd cynaliadwy

Ymwelwch ag Academi Aberddawan.

Pam defnyddio Academi Aberddawan?

Wedi’i gydweddu â Chwricwlwm Cymru mewn gwyddoniaeth, daearyddiaeth, ac addysg gyrfaoedd

  • Wedi’i gynllunio ar gyfer dysgu cynhwysol, hyblyg yn yr ysgol neu gartref
  • Yn gwbl ddwyieithog yn Gymraeg a Saesneg
  • Wedi’i greu gyda mewnbwn gan arbenigwyr addysg ac arbenigwyr diwydiant

Pecyn Adnoddau Am Ddim

I helpu i gyflwyno Academi Aberthaw yn eich ysgol, rydym wedi paratoi pecyn y gellir ei lawrlwytho am ddim sy’n cynnwys:

  • Nodyn briffio athrawon
  • Poster ystafell ddosbarth A4
  • E-dystysgrifau i ddisgyblion
  • Graffeg cyfryngau cymdeithasol ar gyfer eich sianeli

 

Pecyn Adnoddau

Shareholders