×

Ym mis Mehefin, cyhoeddodd CCR Energy uchelgais feiddgar i ddatblygu cyfleuster profi o’r radd flaenaf ar gyfer tyrbinau deugyfeiriadol arloesol – sydd wedi’u dylunio i gipio ynni wrth i’r llanw godi a gostwng.

Bydd y prosiect arloesol hwn yn ail-bwrpasu tanc trin dŵr llanw presennol yn Aberddawan, gan arddangos ein defnydd gorau o asedau presennol i hyrwyddo technoleg ynni gwyrdd.

Mae’r fenter hon wedi dod â grŵp rhyngwladol o randdeiliaid allweddol ynghyd, a gymerodd ran yn ddiweddar mewn gweithdy amrediad llanw yng Nghanolfan Ynni ac Amgylchedd Aberddawan CCR Energy (a elwir hefyd yn ACE2), gyda chyfranogwyr arbenigol yn ymuno â CCR Energy, gan gynnwys:

  • SETB (BBaCh o Gymru) a Tidetec (BBaCh o Norwy) – dau ddatblygwr tyrbinau blaenllaw sy’n canolbwyntio ar dechnoleg llanw isel arloesol.
  • Jacobs: cwmni gwasanaethau technegol proffesiynol rhyngwladol, sy’n darparu canlyniadau a datrysiadau ar gyfer heriau cynaliadwyedd cymhleth a seilwaith critigol.
  • Ferrovial Construction: enw adnabyddus ar lefel rhyngwladol ym maes prosiectau dylunio ac adeiladu cymhleth, amlddisgyblaethol, mewn sectorau sy’n cynnwys rheilffyrdd, priffyrdd, twneli, morol, meysydd awyr ac ynni.
  • Tarmac: yr arbenigwyr mewn deunyddiau adeiladu a chynnyrch adeiladu cynaliadwy.

Mae’r grŵp nawr yn cydweithio ar gynllun i ddatblygu’r cyfleuster profi unigryw hwn, a fydd yn defnyddio tyrbinau deugyfeiriadol uwch, pen isel – ar brosiect sy’n addo cefnogi’r gwaith o arddangos potensial graddfa’r grid ar gyfer amrediad llanw, gan helpu i sbarduno diwydiant amrediad llanw’r DU a’r byd.

Gosod y llwyfan ar gyfer datblygiadau arloesol ym maes ynni’r llanw yn y dyfodol

Fel rhan o’r parth arloesi a ragwelir yn Aberddawan, mae’r prosiect arloesol hwn yn cyd-fynd yn berffaith â gweledigaeth CCR Energy ar gyfer cynhyrchu ynni gwyrdd.

Mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, gyda’i harfordir helaeth ar hyd Aber Afon Hafren, sydd â’r amrediad llanw uchaf ond un yn y byd, ar fin dod yn arweinydd ym maes profi a gweithredu ynni amrediad llanw.

Bydd y fenter hon nid yn unig yn hyrwyddo cynhyrchu ynni gwyrdd, ond hefyd yn creu cyfleoedd cadwyn cyflenwi a thwf swyddi ar gyfer cyflwyno cynlluniau amrediad llanw yn y dyfodol.

“Mae cymryd y camau cyntaf wrth ddatblygu’r cyfleuster profi hwn yn garreg filltir bwysig yn ein cenhadaeth i arloesi yn y sector ynni gwyrdd,” meddai Christian Cadwallader, Rheolwr Gyfarwyddwr Dros Dro CCR Energy. “Drwy ddod ag arbenigwyr blaenllaw o’r diwydiant at ei gilydd, a manteisio ar y seilwaith presennol, mae cyfle i osod y llwyfan ar gyfer datblygiadau arloesol ym maes technoleg ynni’r llanw a allai ddarparu manteision sylweddol y tu hwnt i’r rhanbarth.”

Ychwanegodd Arne Kollandsrud, Prif Swyddog Gweithredol Tidetec: “Wrth chwilio am y safle profi perffaith ar gyfer arddangos ein datrysiad tyrbin arloesol, sydd wedi’i optimeiddio ar gyfer cynhyrchu a phwmpio dwyffordd, rydym yn hyderus bod Aberddawan yn ddelfrydol. Fel canolfan werdd gyda seilwaith hygyrch presennol sy’n barod i gynnwys tyrbin amrediad llanw, gallwn arddangos sut y caiff ynni amrediad llanw ei gynhyrchu, gan gynnwys pwmpio addasol sy’n ategu’r galw. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at weithio a datblygu’r consortiwm hwn sy’n cwmpasu holl ddisgyblaethau’r farchnad amrediad llanw.”

Mae neges gyffredinol y prosiect hwn yn glir: Mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ar flaen y gad o ran cefnogi’r gwaith o gyflwyno datblygiad tyrbinau amrediad llanw – gan gynnull tîm rhyngwladol i arwain y gwaith o greu cyfleuster profi enghreifftiol, a defnyddio strwythur llanw presennol Aberddawan i osod y llwyfan ar gyfer arloesi ym maes ynni’r llanw yn y dyfodol.