×

Mae CCR Energy yn cefnogi’r Brifysgol Agored gydag astudiaeth ddichonoldeb sydd â’r nod o hwyluso hwb arloesi’r Ddaear a’r Gofod yn Aberddawan.

Nod yr astudiaeth ddichonoldeb sy’n cael ei hariannu gan Gefnogaeth Arloesi Hyblyg SMART Llywodraeth Cymru (SFIS), yw nodweddu priodweddau Lludw Tanwydd Maluriedig, a’i gymharu gyda phriodweddau llwch o’r lleuad er mwyn asesu dichonolrwydd creu amgylchedd sy’n efelychu’r lleuad ar y Ddaear.

Mae archwiliadau’r Lleuad wedi ennill amlygrwydd yn gyflym o fewn y sector gofod rhyngwladol, fodd bynnag, does gan y DU ddim canolfan i gefnogi’r fenter ar hyn o bryd. Yn ogystal, mae yna gyfle i ddefnyddio technolegau’r Gofod yn ôl ar y Ddaear. Nod yr hwb arloesi Daear a’r Gofod yw lleihau’r rhwystrau hyn drwy annog ymchwil, hyrwyddo arloesi, a chefnogi twf rhanbarthol busnesau, tra’n cyflymu arloesi aml-ddisgyblaethol a throsglwyddo technoleg traws-sector.

Meddai’r Athro Mahesh Anad, Cyfarwyddwr Ymchwil yn Ysgol y Gwyddorau Ffisegol y Brifysgol Agored a’r ymchwilydd o’r Brifysgol Agored y tu ôl i’r fenter Hwb Arloesi Daear a’r Gofod yn Aberddawan:

“Mae archwilio’r Lleuad yn rhywbeth sydd wedi cyfareddu cenedlaethau o wyddonwyr a pheirianwyr. Er i ni lanio ar y Lleuad gyntaf dros 50 mlynedd yn ôl, dim ond ychydig o’r ardaloedd a archwiliwyd gennym hyd yma, gyda’r rhan fwyaf ohonynt wedi’u lleoli ger rhanbarthau sy’n agos at y cyhydedd ar ochr agosaf y lleuad! Mae yna gymaint i ni ei darganfod ac yn y pen draw defnyddio archwiliad o’r lleuad fel rhywbeth sy’n galluogi ac yn gyrru datblygu technolegau newydd a datrysiadau arloesol a fyddai hefyd yn helpu wrth fynd i’r afael ag amrywiol heriau cymdeithasol ar y Ddaear. Gallai’r datblygiad newydd yn Aberddawan ein helpu ni i ysbrydoli a datblygu’r gweithlu medrus ar gyfer delio gyda heriau yfory. Gallai archwiliad heddychlon a chynaliadwy o’r Lleuad helpu i annog mwy o gydweithrediad yn fyd-eang.”

Mae dechrau’r astudiaeth ddichonoldeb yn cyd-fynd ag Wythnos Gofod y Byd 2025. Mae thema eleni o “Fyw yn y Gofod” yn archwilio’r daith tuag wneud y gofod yn gynefin a chan bwysleisio technolegau arloesol a chyfleoedd i gydweithredu a allai gwneud byw yn y gofod yn realiti. Mae dathliadau’r gofod yr wythnos hon yn tynnu sylw at ddatblygiadau arloesol, o systemau cefnogi bywyd a chynefinoedd yn y gofod i ymchwil ar allu dyn i addasu a defnyddio adnoddau mewn amgylcheddau yn y gofod.

“Rydym yn teimlo’n gyffrous cael cefnogi’r Brifysgol Agored gyda’r prosiect hwn sy’n cefnogi ein gweledigaeth i ailddychmygu Aberddawan fel cyrchfan carbon-isel ar gyfer arloesi cynaliadwy. Mae’r astudiaeth ddichonoldeb yma’n cynrychioli’r cam cyntaf tuag at sefydlu’r Hwb Arloesi y Ddaear a’r Gofod yn Aberddawan. Mae’r ganolfan hon ar gyfer arloesi’r gofod yn cynrychioli cyfle gwych i arddangos egwyddorion yr economi gylchol gyda phosibilrwydd o ddefnyddio Lludw Tanwydd Maluriedig fel llwch o’r lleuad, gan arddangos sut mae’r cydweithrediad a’r gefnogaeth hon gan Lywodraeth Cymru yn gam hanfodol wrth ailddychmygu tirweddau ôl-ddiwydiannol.” Meddai Dr Bettina Bockelmann-Evans o CCR Energy.

A potential Earth and Space Innovation Hub at Aberthaw not only aligns with this year’s World Space Week theme but also presents an opportunity for further development and innovation of space industries and technologies, supporting local and regional economies and skills development in lunar exploration topics.

The two-month feasibility study will assess and characterise the PFA to establish whether it is a suitable material to create a lunar-simulated environment for testing Space-designed technologies and hardware. This project represents the first step aiming to place Aberthaw and the Earth and Space Innovation Hub as a world-class centre for space innovation.

 

 

Written by Nuri Santiaguillo