×
Donated chairs in Holton Road Primary School, Barry.

Rhoddion dodrefn gan Ace2 i bob rhan o Bro Morgannwg

Fel arwydd twymgalon o ysbryd cymunedol a chynaliadwyedd, cafodd 42 darn o ddodrefn o ansawdd uchel a ddefnyddiwyd mewn swyddfa eu rhoddi gan Ynni CCR Energy Cyf i ysgolion a busnesau bach ledled Bro Morgannwg. Oherwydd ailwampio bach o swyddfeydd CCR Energy, roedd gennym warged o ddodrefn wedi’i ddefnyddio nad oedd ei angen mwyach. Felly, ar ôl galwad i grwpiau cymunedol lleol, fe lwyddon ni i ddod o hyd i gartrefi newydd ar gyfer y cyfan.

Mae’r rhodd yn cynnwys detholiad amrywiol o ddesgiau, cadeiriau, byrddau, cypyrddau ffeilio a soffas – gyda phob un eitem yn cael ail fywyd mewn lleoliadau lle mae’u hangen fwyaf. Rhoddodd y sefydliad hefyd beiriant golchi llestri a boeler ddŵr 20 litr i ysgol sy’n ystyried defnyddio’r eitemau yn ei chanolfan anghenion addysgol arbennig (SEN).

Nod y fenter yw cynorthwyo cymunedau addysgol ac entrepreneuraidd y rhanbarth gan leihau gwastraff a hyrwyddo cyfrifoldeb amgylcheddol. Mae buddiolwyr yn cynnwys ysgolion cynradd ac uwchradd, cynghorau cymuned a mentrau annibynnol yn y sir sydd yn aml yn wynebu cyllidebau tynn o ran dodrefnu’u hystafelloedd.

Dewiswyd pob derbynnydd yn ofalus yn seiliedig ar angen ac effaith gadarnhaol y gallai’r dodrefn ei chael ar eu hamgylcheddau gweithio a dysgu. Mynegodd athrawon mewn un ysgol leol eu diolch, gan ddweud bod y desgiau a’r cadeiriau a roddwyd wedi helpu i ddodrefnu ystafell newydd fyddai fel arall wedi parhau’n wag oherwydd cyfyngiadau cyllido.

I amryw o fusnesau bach, mae derbyn byrddau swyddfa a chypyrddau storio wedi caniatáu iddynt wella’u lle gwaith a chanolbwyntio mwy o adnoddau ar dyfu’u gweithrediadau.

Dywedodd Rob O’Dwyer, Pennaeth Cyflawni Prosiectau yn Ynni CCR Energy: “Rydym wrth ein bodd o fod wedi rhoddi’n dodrefn dros ben i’r rheiny sydd ei angen, yn cynnwys ysgolion, cynghorau cymuned, busnesau lleol a sefydliadau eraill. Mae ail-bwrpasu’r dodrefn hyn yn dangos ein hymrwymiad diffuant i werth cymdeithasol a budd cymunedol, ac rydym yn falch y gallwn ddarparu hyn i’n cymuned leol a gwneud gwir wahaniaeth.”

Dywedodd Derek Willmot, aelod o Gyngor Cymuned Sain Tathan: “Mae Cyngor Cymuned Sain Tathan yn eithriadol o ddiolchgar am y rhodd o fwrdd ystafell y bwrdd gan Ynni CCR Energy, a ddefnyddir yn siambr y cyngor. Mae wedi’n galluogi i ailgylchu, trwy Fanc Dillad Sain Tathan, nifer o fyrddau bychain hŷn.”

Mae’r rhodd nid yn unig yn amlygu gwerth ailddefnyddio eitemau o ansawdd a allai fel arall gael eu gwastraffu, ond mae hefyd yn tanlinellu pwysigrwydd partneriaethau cymunedol. Trwy sicrhau bod y darnau hyn o ddodrefn yn cael eu hail-bwrpasu’n lleol, mae’r fenter yn atgyfnerthu egwyddorion economi cylchol lle y caiff adnoddau’u hailddefnyddio a’u hail-bwrpasu er y budd mwyaf.

Gobeithiwn y bydd y weithred hon o roi yn ysbrydoli eraill i ystyried sut y gall eitemau dros ben ganfod diben newydd a gwneud gwir wahaniaeth i gymunedau lleol.