Roedd rhai golygfeydd rhyfeddol yn aros am ein tîm pan gymerodd CCR Energy reolaeth dros orsaf bŵer Aberddawan yn 2023.
Roedd hanner canrif o gynhyrchu ynni glo wedi gadael etifeddiaeth sylweddol – gan gynnwys mynydd 18 miliwn tunnell, 50 metr o uchder, o ludw tanwydd maluriedig (PFA).
Yn y gorffennol, ystyriwyd PFA fel dim byd mwy na gwastraff i’w waredu, ond bellach gallai’r lludw hwn fod yn adnodd gwerthfawr iawn – sy’n cael ei werthfawrogi’n fawr am ei niwtraliaeth garbon, fel deunydd cynaliadwy ar gyfer adeiladu a gweithgynhyrchu, gyda photensial enfawr ar gyfer ailgylchu ac ailddefnyddio yn yr economi gylchol.
Felly, beth yw ein cynlluniau ar gyfer y twmpath lludw hwn sy’n cynnig manteision amgylcheddol sylweddol – a gwerth masnachol sylweddol?
A sut gallwn ni helpu i gyflawni strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer amgylchedd adeiledig glanach – mewn ecosystem lle nad yw deunyddiau byth yn dod yn wastraff, a lle mae natur yn cael ei adfywio ar bob cyfle?
50 metr o uchder ac yn barod i greu dyfodol twf glân
Pan fyddwn ni’n edrych i fyny ar y twmpath lludw 160 troedfedd o uchder, sy’n gorwedd ar ochr ddwyreiniol ein safle 500 erw, rydym ni’n edrych ar lawer mwy na chanlyniad tunelli di-rif o lo sydd wedi ei falu ar dymheredd eithafol yn hen ffwrneisi Aberddawan.
Rydym ni’n edrych ar ddeunydd a fydd yn cael ei ddefnyddio – yn llythrennol – i adeiladu byd newydd a chynaliadwy.
Mae’r ‘lludw hylosgi glo’ hwn yn Aberddawan yn gallu cael ei ddefnyddio’n ‘lân’ ym mhopeth o sment a choncrid bob dydd, i’r arloesiadau gweithgynhyrchu argraffu 3D sy’n creu’r byd newydd o’n cwmpas.
Ac o ystyried gwerth uchel ein PFA, rydym ni’n cydweithio â phartneriaid yn y DU ac o bosibl dramor, gan archwilio sawl llwybr gwahanol i fanteisio i’r eithaf ar yr adnodd anhygoel hwn …
Cydweithrediad wedi’i adeiladu ar gydymffurfiaeth
Ym mis Chwefror, ar ôl ymgysylltu â WSP UK Limited i gynnal astudiaeth ddichonoldeb gychwynnol, fe wnaethom gyflwyno ‘galwad i’r farchnad’ bwerus i unrhyw sefydliad sydd â’r arbenigedd i helpu i ail-bwrpasu’r PFA.
Mae’n wych adrodd ein bod wedi cael ymateb cryf iawn – a’n bod wedi gallu darparu cloddiad cychwynnol o 20 tunnell o ddeunydd at ddiben profi i lawer o fentrau arbenigol, fel rhan o brosiect a ariennir gan Lywodraeth Cymru.
Mae sicrhau bod y samplau hynny o ludw sydd wedi’u bagio’n ofalus ar gael i chwaraewyr y farchnad sydd â’r wybodaeth a’r ymrwymiad i brofi’r deunydd wedi bod yn syniad ysbrydoledig – gyda’n ‘galwad’ yn arwain at nifer o sefydliadau’n rhannu eu canfyddiadau â CCR Energy, gan roi dealltwriaeth ddofn i ni o’r cyfleoedd y gallai’r PFA yn Aberddawan eu darparu.
Yn naturiol, mae cydymffurfiaeth reoleiddiol wedi bod wrth galon ein dull gweithredu drwy gydol yr holl weithgarwch hwn – mae ein hymgynghoriadau helaeth â Cyfoeth Naturiol Cymru wedi sicrhau cymeradwyaeth ar gyfer y cam cloddio cyntaf, ac wedi sicrhau cydymffurfiad ar gyfer y camau dilynol, ac mae trafodaethau lefel uchel gydag Awdurdod Cynllunio Lleol Bro Morgannwg wedi canolbwyntio ar fanteisio i’r eithaf ar botensial gweithrediadau adfer PFA, yn y ffordd fwyaf cyfrifol bosibl.
Cynllun masnachol wedi’i ysbrydoli gan fewnwelediad i’r farchnad
Gan fod yr holl ddata a thystiolaeth yn cael eu casglu o sawl lle gwahanol, beth ydym wedi’i ddysgu hyd yma?
Mae’r prosiect arloesol hwn eisoes wedi rhoi barn wybodus ar sut y gall adfer PFA yn Aberddawan gynnig manteision amgylcheddol ac economaidd yn y byd go iawn … gan siapio cynllun masnachol a fydd yn cynhyrchu elw bythwyrdd ar yr un pryd â lleihau carbon yn sylweddol, gostyngiad mawr mewn deunyddiau wedi’u cloddio, a hwb diriaethol i’r economi gylchol.
Mae pob elfen o’r mewnwelediad hwnnw wedi ein galluogi i feddwl am sut y gallai strategaeth fasnachol ar gyfer PFA edrych. Wrth i’n taith ddarganfod barhau, nid yn unig o ran y defnydd posibl o PFA fel elfen bwysig mewn llawer o ddatblygiadau arloesol yn yr economi gylchol ledled y byd – ond fel rhan o broses adfer chwyldroadol sy’n paratoi’r ffordd ar gyfer trawsnewid safle tir llwyd sy’n torri ffiniau yn ganolfan cynaliadwyedd sy’n gallu diwallu anghenion ynni cartrefi a busnesau ledled Cymru, y DU a thu hwnt.