
Christian Cadwallader
Rheolwr Gyfarwyddwr
Christian yw Rheolwr Gyfarwyddwr CCR Energy. Mae’n gyfrifol am gyflawni’r gwaith o ailddatblygu’r safle yn gyffredinol. Mae gan Christian gyfoeth o brofiad o ailddatblygu prosiectau adfywio cymhleth ledled y DU. Gyda chefndir ym maes peirianneg sifil a strwythurol, mae Christian wedi goruchwylio’r gwaith o ailddatblygu rhaglenni seilwaith mawr yn y sectorau cyhoeddus a phreifat.