
Mike Crooke
Cyfleusterau’r Safle
Cafodd Mike ei eni a’i fagu yn Llanilltud Fawr, a threuliodd ran gynnar ei fywyd gwaith yn y Fyddin Brydeinig, profiad a oedd yn golygu ei fod yn teithio’r byd ac yn datblygu sgiliau helaeth. Ar ôl gadael y fyddin, ymunodd â chwmni sy’n darparu ystod arbenigol o wasanaethau rheoli cyfleusterau i lawer o wahanol sefydliadau, gan gynnwys RWE, perchnogion blaenorol safle Aberddawan. Gyda’i angerdd am y fflora a’r ffawna lleol – yn ogystal â gwybodaeth fanwl am safle Aberddawan – mae Mike yn rhan annatod o gadw ein hamgylchedd gwaith yn lân, yn ddiogel ac yn groesawgar i bawb sy’n gweithio ac sy’n ymweld yma.