×

Yn ystod haf 2023, symudodd CCR Energy i ACE2 – Canolfan Ynni ac Amgylchedd Aberddawan – sy’n lle hollol anhygoel!

Agorwyd ACE2 yn 2011 gan y Gwir Anrhydeddus Carwyn Jones AC, Prif Weinidog Cymru ar y pryd, cyn i’r ganolfan ddechrau ei bywyd gwaith fel man addysg arloesol i blant – gan ganolbwyntio ar agor meddyliau ifanc i ddyfodol sy’n seiliedig ar ynni cynaliadwy, gan hyrwyddo gweledigaeth o gymunedau sy’n byw mewn cytgord â’r amgylchedd.

Cafodd ei ddefnyddio gan RWE hyd at ddyddiad datgomisiynu safle Aberddawan yn 2020, gan aros yn segur am ychydig o flynyddoedd nes i CCR Energy fanteisio ar y cyfle i adfywio’r cyfleuster hynod hwn.

Mae sefydlu cartref yn y lle unigryw hwn yn golygu y gall ein tîm weithio mewn adeilad sydd wedi cael ei greu yn ysbryd cynaliadwyedd ac arloesedd – gan edrych allan ar Fôr Hafren, a photensial ynni enfawr ail amrediad llanw uchaf y byd.

O ganlyniad, mae’n cynrychioli mwy na ‘dim ond’ symud mewn i leoliad gwaith gwych.

Mae’n ymgorffori ein hymrwymiad i stiwardiaeth amgylcheddol ac ymgysylltu â’r gymuned – mae ACE2 eisoes wedi cynnal amrywiaeth eang o ddigwyddiadau ysbrydoledig, cyfarfodydd llawn gwybodaeth a sgyrsiau craff … gan ddod â channoedd o randdeiliaid amrywiol at ei gilydd sy’n awyddus i ddarganfod eu rhan i’n helpu i adeiladu cyrchfan carbon isel a all bweru byd twf glân.

Ac rydym ni wedi gweithio’n galed i wneud ein cartref newydd yn lle arbennig iawn i’n cydweithwyr a’n cymunedau.

Adfywio ac Adnewyddu

Cafodd ACE2 ei ddylunio gyda diogelu at y dyfodol a chynaliadwyedd wedi’i wreiddio yn yr adeilad – ffocws gwyrdd cynhenid sy’n alinio’n berffaith â’n gweledigaeth a’n cenhadaeth.

Mae system casglu dŵr glaw wedi’i dylunio i gasglu dŵr glaw ar gyfer fflysio toiledau – sy’n golygu ein bod yn arbed dŵr gyda phob fflysh – ac mae’r paneli solar ar y to yn amsugno pelydrau o’r haul ac yn adlewyrchu ein hymrwymiad i ynni adnewyddadwy, ynghyd â nodweddion ecogyfeillgar fel system wresogi dan y lloriau a phympiau gwres ffynhonnell aer.

Roedd yr adeilad wedi bod yn wag ers tro, ac mae’n anochel bod arfordir stormus De Cymru wedi gadael ei farc mewn rhai mannau – felly fe wnaethom ddechrau gweithio ar unwaith pan wnaethom gymryd yr allweddi ar gyfer ACE2, yn benderfynol o’i adfer i’w hen ogoniant, a’i uwchraddio ymhellach gyda thechnoleg o’r radd flaenaf.

Mae’r gwaith hwnnw eisoes wedi cynnwys ailwampio’r system casglu dŵr glaw a’r system wresogi dan y lloriau yn llwyr, ailosod pympiau gwres ffynhonnell aer a phaneli solar, atgyweiriadau mecanyddol i’r canopi, adnewyddu’r maes parcio, gwasanaethu’r system teledu cylch cyfyng a’r larymau tresmaswyr, adnewyddu ceblau yn y system ddaearu, archwilio gosodiadau ac offer trydanol yn gynhwysfawr – ac ‘ychwanegiadau’ nodedig fel contract ailgylchu, gosod Wi-Fi ac optimeiddio band eang.

Wrth i ni ymgartrefu yn ein cartref newydd, rydym ni’n hynod ddiolchgar i’r holl wahanol bobl a phartïon sydd wedi ein cefnogi ni drwy gydol y cyfnod pontio hwn.

Maent wedi ein helpu i greu canolfan unigryw ar gyfer arloesi, cydweithio ac ymgysylltu â’r gymuned.

Cyrchfan lle gallwn gynnal gweithdai addysgol, fforymau diwydiant, a rhaglenni allgymorth sy’n ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol ynghylch cynaliadwyedd.

Rhywle lle gallwn ni arwain y ffordd tuag at ddyfodol gwyrddach a glanach.

Ac yn olaf, man gwaith lle gallwn fwynhau’r hyn y mae Nigel Williams, ein Rheolwr Gweithredol, yn ei ddisgrifio fel “y swyddfa â’r olygfa orau yn y Rhanbarth”!