Mae Erith Contractors Limited, a sefydlwyd ym 1967 – wedi ennill y contract i ddymchwel gorsaf bŵer eiconig Aberddawan.
Gyda bron i 60 mlynedd o brofiad yn y maes arbenigol iawn hwn, mae Erith wedi adeiladu enw da rhagorol am ragoriaeth ar draws diogelwch, cyfrifoldeb, ymgysylltu â’r gymuned a chynaliadwyedd amgylcheddol – gyda gwasanaethau cynhwysfawr sy’n cwmpasu dymchwel, tynnu asbestos, gwaith adfer, gwaith cloddio, seilwaith, rheoli gwastraff a chludo.
Mae tîm Erith yn dechrau gweithredu ar 19 Chwefror 2024, gyda dyddiad cwblhau disgwyliedig o fis Mawrth 2027 – mae’r cyfnod tair blynedd hwn yn adlewyrchu cwmpas helaeth y prosiect, a’r gwaith cynllunio a gweithredu manwl sydd ei angen, ar gyfer trawsnewidiad a fydd yn helpu i lunio dyfodol ynni cynaliadwy a gweithgynhyrchu uwch, ar gyfer Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a thu hwnt.
Ymrwymiad llwyr i ddiogelwch a stiwardiaeth amgylcheddol
“Rydym ni’n falch o gyhoeddi bod Erith Contractors wedi cael eu dewis i ddymchwel Gorsaf Bŵer Aberddawan,” meddai Christian Cadwallader, Rheolwr Gyfarwyddwr Dros Dro CCR Energy. “Yn anad dim, mae eu henw da am gyflawni prosiectau cymhleth, a’u hymrwymiad i ddiogelwch a stiwardiaeth amgylcheddol, yn cyd-fynd yn berffaith â’n gweledigaeth ar gyfer trawsnewid y safle.”
Bydd diogelwch yn hollbwysig yn ystod y broses ddymchwel – yn enwedig o ran tynnu asbestos sy’n bresennol yn yr orsaf bŵer – gydag Erith yn gweithredu mesurau diogelwch llym, yn unol â chanllawiau’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch a Rheoliadau Rheoli Asbestos 2012.
Bydd y mesurau cadarn a thrylwyr hyn yn sicrhau bod asbestos yn cael ei dynnu’n ddiogel cyn dymchwel, gan ddiogelu gweithwyr a’r gymuned gyfagos – gydag Erith yn pwysleisio: “Mae’n anrhydedd i ni gael ein hymddiried â’r prosiect sylweddol hwn – ac mae ein tîm yn gwbl barod i wneud y gwaith dymchwel gyda’r proffesiynoldeb mwyaf, gan flaenoriaethu diogelwch, cynaliadwyedd amgylcheddol ac ymgysylltu â’r gymuned drwy gydol y broses.”
Ymgysylltu â'r gymuned mewn ffordd dryloyw a rhagweithiol
Gyda’r gymuned a chydweithredu wrth galon gweledigaeth CCR Energy, gall trigolion sy’n byw ger y safle ddisgwyl cyfathrebu tryloyw a rhagweithiol gan Erith.
Mae’r cwmni wedi sefydlu gorsafoedd monitro amser real i olrhain lefelau sŵn, llwch a dirgryndod, gan hwyluso ymateb prydlon os bydd unrhyw bryderon – yn ogystal â gwneud gwelliannau sylweddol i ddiogelwch y safle, gan gynnwys gwelliannau i linellau ffensys a theledu cylch cyfyng, i greu amgylchedd diogel.
“Rydym ni’n deall y gall gwaith dymchwel godi pryderon ymysg trigolion, ac rydym ni wedi ymrwymo’n llwyr i fynd i’r afael â’r pryderon hyn yn rhagweithiol,” meddai Erith. “A dyna pam rydym ni’n credu bod cyfathrebu agored â’r gymuned yn hanfodol, ac rydym ni’n annog preswylwyr i gysylltu ag unrhyw gwestiynau neu adborth sydd ganddyn nhw.”
Mae WSP yn gweithio mewn partneriaeth â CCR Energy i hwyluso’r broses dendro drylwyr – a bydd yn parhau i weithio’n agos gydag Erith i sicrhau bod y safonau uchaf o waith yn cael eu bodloni wrth i’r prosiect uchelgeisiol hwn ddatblygu, gan adael etifeddiaeth barhaol o arloesi a chynaliadwyedd i gymunedau ac economi De-ddwyrain Cymru.