Aberddawan

Paratoi’r Ffordd ar gyfer Dyfodol Carbon Isel Glanach, Gwyrddach a Chystadleuol

Ein cynllun meistr

Yn CCR Energy, rydym yn trawsnewid safle Pwerdy Aberddawan yn ganolfan fywiog ar gyfer ynni cynaliadwy, arloesi a datblygu cymunedol. Mae Prosiect Aberddawan yn fenter sawl cam sy’n ymrwymedig i ddymchwel a chyweirio’r hen bwerdy’n gyfrifol ynghyd â gosod y sylfeini ar gyfer creu dyfodol wedi’i ddiffinio gan fyw carbon isel

Mae ein cenhadaeth yn fwy nag anelu at fod yn garbon niwtral; ein nod yw creu amgylchedd sy’n rhyngwladol gystadleuol a gwella lles economaidd a chymdeithasol. Mae’r prosiect hwn yn fwy na cheisio lleihau allyriadau carbon – mae’n ymwneud â chreu cymuned ffyniannus, gynaliadwy. Gan roi ffocws ar arbed ynni, y cyfleusterau diweddaraf ynghyd ag ymchwil a datblygu parhaus, bydd Aberddawan yn arwain y ffordd o ran arloesi, denu buddsoddiad, creu gwaith a meithrin clwstwr o uwch-dechnolegau. Rydym yn ymrwymedig i gael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd gan sicrhau bod Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn arwain y byd mewn cynaliadwyedd ac fel cyrchfan i fusnesau blaengar.

Dymchwel

Bydd Cam Un yn dymchwel Pwerdy Aberddawan dros gyfnod o dair blynedd. Mae contract y gwaith dymchwel wedi’i roi i Erith Contractors – ymddiriedaeth deuluol a’i staff yn berchen arni a sefydlwyd yn 1967. Mae CCR Energy wedi penodi WSP i helpu i oruchwylio a gweinyddu’r contract dymchwel i sicrhau bod y safonau gwaith uchaf posib yn cael eu cwrdd wrth i’r prosiect uchelgeisiol hwn fynd yn ei flaen, gan adael gwaddol parhaol o arloesi a chynaliadwyedd i gymunedau ac economi De-Ddwyrain Cymru.

O ystyried pa mor gymhleth yw’r gwaith o ddymchwel a chyweirio rhywle oedd yn gartref i bwerdy glo mawr am hanner canrif, mae’r safle 500 acer wedi’i rannu’n bum parth allweddol.  Bydd hyn yn helpu i gyflymu’r cyfleoedd datblygu a chefnogi proses ddymchwel sy’n rhoi diogelwch, stiwardiaeth amgylcheddol ac ymgysylltu cymunedol wrth galon y broses.

Parth 1 - Tua 118 wythnos,
Parth 2 - Tua 135 wythnos,
Parth 3 - Tua 18 wythnos,
Parth 4 - Tua 14 wythnos,
Parth 5 - Tua 24 wythnos
Mae’n werth nodi y gallai’r amserlen ar gyfer prosiect dymchwel mor fawr â hyn newid felly cofiwch fynd i’n gwefan yn rheolaidd am y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf.

Mae Cam 2 yn nodi dechrau dymchwel mecanyddol ar draws y gwahanol barthau yn dilyn y broses ofalus a systematig o dynnu asbestos. Mae’r cam yma yn canolbwyntio ar baratoi pob ardal ar gyfer ailddatblygu, gan ddefnyddio peiriannau trwm i ddatgymalu strwythurau yn ddiogel ac yn effeithlon.

Gyda gwaith dymchwel ar fin dechrau ym Mharth 5 ac yna parhau ym Mharthau 4, 3 a 2 wedi hynny, mae’n gam sylweddol wrth drawsnewid y safle. Bydd y gwaith yn cael ei gwblhau gyda’r pwyslais mwyaf ar safonau diogelwch ac effaith amgylcheddol, gan sicrhau proses gyfrifol wrth glirio safle.

Parth 1 - Tua 118 wythnos,
Parth 2 - Tua 135 wythnos,
Parth 3 - Tua 18 wythnos,
Parth 4 - Tua 14 wythnos,
Parth 5 - Tua 24 wythnos
Mae’n werth nodi y gallai’r amserlen ar gyfer prosiect dymchwel mor fawr â hyn newid felly cofiwch fynd i’n gwefan yn rheolaidd am y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf.

Cam 3 yw’r cam olaf a mwyaf dwys yn y broses dymchwel, gan gynnwys gwaith dymchwel mecanyddol a digwyddiadau ffrwydrol rheoliedig i gael gwared ar y strwythurau mawr sydd ar y safle.

Mae’r cam yma yn canolbwyntio ar y gwaith datgymalu cymhleth o ardaloedd allweddol, megis tŵr y simdde ym Mharth 2 ac adeiladau blaenllaw ym Mharth 1. Trwy gyfuno uwch-dechnegau dymchwel ynghyd â chynllunio manwl, nod Cam 3 yw sicrhau fod y safle yn cael ei glirio yn ddiogel ac effeithiol, gan baratoi pethau ar gyfer yr ailddatblygu sydd i ddilyn yn y dyfodol tra’n lleihau aflonyddwch i’r gymuned gyfagos.

Parth 1 - Tua 118 wythnos,
Parth 2 - Tua 135 wythnos,
Parth 3 - Tua 18 wythnos,
Parth 4 - Tua 14 wythnos,
Parth 5 - Tua 24 wythnos
Mae’n werth nodi y gallai’r amserlen ar gyfer prosiect dymchwel mor fawr â hyn newid felly cofiwch fynd i’n gwefan yn rheolaidd am y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf.
Ymwrthodiad: Mae’r broses ddymchwel yn gymhleth ac wrth i ni barhau i drafod y prosiect, gallai cynlluniau ac amserlenni esblygu. Rydym yn ymrwymedig i’ch diweddaru ar unrhyw newidiadau a sicrhau bod yr holl waith yn cael ei wneud i’r safonau uchaf o ran diogelwch a gofal amgylcheddol.

Available plots

Lorem ipsum dolor sit amet, consectetur adipis cing elit. Pellentesque iaculis ipsum vitae mol estie egestas. Sed pharetra ferme ntum mauris, non pharetra ligula efficitur non. In vel ullam corper nisl, a laoreet mi. Nunc in diam eget dui ultricies maximu.

Ymrwymiad i gyrraedd sero-net

Addewid i’r gymuned

Mae ein haddewid i’r gymuned wrth galon y prosiect hwn gan sicrhau bod preswylwyr lleol a rhanddeiliaid nid yn unig yn cael eu diweddaru ond yn cael eu hystyried yn fanwl ym mhob cam. Rydym yn ymroddedig i barhau i gyfathrebu’n agored a didwyll gan ddiweddaru’n rheolaidd a rhoi sylw prydlon i unrhyw bryderon. Drwy ymgynghori gyda’r cyhoedd, sesiynau gwybodaeth a mentrau cydweithredol fel partneriaeth Academii Aberddawan, ein nod yw meithrin ymdeimlad o bwrpas cyffredin a thryloywder. Drwy flaenoriaethu lles y gymuned a gwrando’n bwrpasol ar eu hadborth, ein nod yw lleihau unrhyw aflonyddwch a chreu canlyniadau da a pharhaus i’r rhanbarth.

Cwestiynau Cyffredin

Nod Prosiect Aberddawan yw ail-bwrpasu hen Bwerdy Aberddawan yn ne-ddwyrain Cymru a’i droi’n gyrchfan carbon isel aml-ddefnydd a chynaliadwy ar gyfer ynni adnewyddadwy, technoleg carbon isel a datblygu economaidd, gan gefnogi cynaliadwyedd y rhanbarth a chreu swyddi union / anuniongyrchol.

Y nod yw creu cyrchfan carbon isel ar gyfer busnesau sy’n cefnogi a defnyddio ynni carbon isel, buddsoddi mewn diwydiannau sy’n defnyddio technoleg werdd ac, yn y pen draw, cynyddu twf yr economi leol a rhanbarthol drwy greu swyddi o ansawdd uchel.

Mae cymysgedd o ffynonellau ynni adnewyddadwy carbon isel yn cael ei ystyried, gan gynnwys pŵer solar, tyrbinau gwynt, pŵer llanw, adweithyddion modiwlar bach (SMR) ayyb, ac efallai pŵer hydrogen o un neu fwy o’r ffynonellau hyn. Bydd unrhyw brosiect sy’n cael ei ystyried yn seiliedig ar astudiaeth ymarferoldeb, amodau safle ac asesiad o’r effaith amgylcheddol.

Y gobaith yw y bydd prosiect Aberddawan yn creu gwaith, darparu cyfleoedd addysgol, denu buddsoddiad a gwella’r seilwaith presennol yn ogystal â chreu seilwaith newydd. Bydd hefyd yn ceisio creu ardaloedd hamdden cyhoeddus ar y safle.

Bydd Asesiad Effaith Amgylcheddol yn cael ei wneud ar gyfer unrhyw brosiect sy’n cael ei ystyried i leihau’r effeithiau negyddol, gwella bioamrywiaeth a gwella iechyd hirdymor yr ecosystem leol.

Bydd, mae ymgysylltu gyda’r gymuned yn bwysig iawn i CCR Energy. Bydd y tîm yn cynnwys preswylwyr, busnesau a sefydliadau drwy ymgynghori cyhoeddus, sesiynau gwybodaeth a chynllunio cydweithredol.

Drwy fod yn y camau dymchwel, cyweirio, cynllunio a datblygu cynnar ar hyn o bryd, bydd y cam dymchwel yn cymryd hyd at dair blynedd (Gwanwyn 2027), gan ddisgwyl i’r camau adeiladu, cyweirio a gweithredol symud ymlaen ochr yn ochr â’r cam dymchwel wrth i gyfleoedd masnachol ddatblygu.

Bydd y prosiect yn creu swyddi mewn ynni adnewyddadwy, technoleg werdd, adeiladu, cynnal a chadw safle, addysg ac ymchwil, gan ganolbwyntio ar sefydlu gweithlu medrus ar gyfer diwydiannau cynaliadwy.

Gall aelodau o’r gymuned gymryd rhan drwy ymgynghoriadau cyhoeddus, rhaglenni gwirfoddoli a chyfarfodydd rhanddeiliaid. Bydd y newyddion diweddaraf am gynnydd, digwyddiadau a chyfleoedd i gymryd rhan yn y prosiect yn cael eu rhannu’n rheolaidd ar wefan Newyddion / Digwyddiadau CCR Energy a’r cyfryngau cymdeithasol.

Mae ein ffocws ar brosiectau cynaliadwy fel cynhyrchu ynni adnewyddadwy, storfeydd batri a phrosiectau sy’n cefnogi hyn fel gweithgynhyrchu, arloesi a chyfleusterau hydrogen gwyrdd ayyb.

Nid yw CCR Energy yn ystyried gosod llosgydd ar y safle ac nid oes cynigion wedi eu cyflwyno.

Mae diogelwch yn flaenoriaeth ym mhob cam o’r prosiect, gydag asesiadau risg a rheolau iechyd a diogelwch llym yn eu lle. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â thîm Prosiect Aberddawan drwy wefan CCR Energy neu e-bostio enquiries@ccrenergy.com

Buddsoddi yn Aberddawan

Mae Aberddawan yn cynnig amrediad unigryw o gyfleoedd gwych i fuddsoddi mewn cyrchfan carbon isel arloesol ac ysbrydoledig. Cysylltwch â’n tîm i gael gwybod mwy.

Ymholiad buddsoddi