Pan gafodd CCR Energy wahoddiad i Gynhadledd MIPIM eleni, roeddem yn teimlo’n freintiedig ac yn gyffrous iawn i fynd i’r digwyddiad eiddo tirol mwyaf yn y byd.
Rhoddodd y gwahoddiad i ymuno â dirprwyaeth Prifddinas-Ranbarth Caerdydd lwyfan byd-eang i ni arddangos y cyfleoedd buddsoddi ysbrydoledig ac amrywiol a fydd yn dod i’r amlwg dros y blynyddoedd nesaf ar safle tir llwyd 500 erw Aberddawan, a fydd yn gartref i rai o fentrau mwyaf arloesol y DU ym maes ynni cynaliadwy a gweithgynhyrchu uwch.
Ystod eang o gyfleoedd cynaliadwy ar gyfer mentrau arloesol
Fe wnaeth cynhadledd gatalytig MIPIM ein galluogi i chwarae ein rhan mewn rhywbeth sy’n agos iawn at ein calonnau – gan helpu i gyfleu’r ystod eang o gyfleoedd masnachol cynaliadwy sy’n cael eu cynnig yn economi unigryw De-ddwyrain Cymru.
Mae’r ddwy weledigaeth – ar gyfer canolfan chwyldroadol o fentrau cynaliadwy sy’n canolbwyntio ar ynni ac sy’n ystyriol o’r hinsawdd yn Aberddawan; a phrifddinas-ranbarth gwyrddach, glanach a mwy ffyniannus – yn mynd law yn llaw.
Ein huchelgais ar gyfer Aberddawan yw creu canolfan cynhyrchu ynni gwyrdd a diwydiant cynaliadwy a fydd yn helpu i bweru ein rhanbarth – gan greu swyddi o ansawdd uchel, cynhyrchu mwy o werth ychwanegol gros, a sicrhau gwerth cymdeithasol gwirioneddol i gymunedau lleol.
Bydd rhan o’r trawsnewid hwnnw’n golygu ein bod yn denu buddsoddiad sylweddol – ac yn helpu i roi hwb i fentrau ar draws rhanbarth sy’n gartref i hanner poblogaeth Cymru, ac sy’n gyfrifol am 50% o allbwn economaidd Cymru.
Mae’r croeso cynnes a gawsom – a’r ymgysylltu anhygoel a gafwyd – yn MIPIM eleni wedi rhoi cipolwg i ni ar y potensial sydd gennym yn Aberddawan.
Nawr rydym ni’n canolbwyntio ar wireddu’r posibiliadau arloesol hynny; chwarae rhan bwysig yn y gwaith o sicrhau dyfodol mwy gwydn, cynaliadwy a llewyrchus i bawb yn ne-ddwyrain Cymru – a thu hwnt.
#ymgysylltu #egnïo #galluogi #grymuso